Skip to content

Iaith Pawb - Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Cymru Ddwyieithog

Dolenni perthnasol

Dyma'r chweched adroddiad blynyddol ar berfformiad Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas â'r ymrwymiadau a geir yn Iaith Pawb a Chynllun Iaith Gymraeg Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Sut yr ydym yn gweithio er mwyn sicrhau Cymru ddwyieithog.
Dyma Gynllun Iaith Gymraeg Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Iaith Pawb - Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Cymru Ddwyieithog
Cynllun Gweithredu Cenedlaethol sy'n pennu strategaeth egnïol er mwyn sicrhau bod gan yr iaith Gymraeg y gefnogaeth a'r amgylchedd perffaith i ffynnu.

Diben y Cynllun Gweithredu hwn yw darparu'r fframwaith strategol cenedlaethol hwnnw.

Yn y Cynllun Gweithredu, mae Llywodraeth y Cynulliad yn gwneud datganiad cyhoeddus am yr hyn yr ydym am ei gyflawni ar ran y Gymraeg, sut y byddwn ni'n cyflawni'n nod a'r hyn yr ydym yn dymuno ac yn disgwyl i'n partneriaid ei wneud i'n cefnogi.

Ym mhob adran rydym yn rhestru'r cynlluniau yr ydym ni a'n partneriaid yn eu datblygu a fydd yn cefnogi'r strategaeth genedlaethol ac rydym yn egluro pa gorff sy'n gyfrifol ac yn atebol dros y gweithgaredd hwnnw.